https://cy.wikipedia.org/wiki/Ysgrifen
https://cy.wikipedia.org/wiki/Ysgrifen
CY.WIKIPEDIA.ORG
Ysgrifen
Ysgrifen yw unrhyw beth sy'n cofnodi iaith trwy ddefnyddio system o symbolau, arwyddion neu lythrennau. Defnyddir ysgrifennu am y weithred o'i gynhyrchu. Yn y cyfnod cynnar, dibynnid ar y cof dynol, ond wrth i fasnach a gweinyddiaeth ddod yn fwy cymhleth, tyfodd yr angen am gofnod mwy dibynadwy a pharhaol. Dechreuodd hyn tua'r pedwerydd mileniwm CC. Gall symbol gynrychioli gair unigol ("logograffig"), sillaf neu sain unigol. Defnyddir y term gwyddor am gasgliad o symbolau neu lythrennau sy'n cynrhycioli seiniau unigol. Bu datblygiad ysgrifen o bwysigrwydd mawr yn hanesyddol. Ceir un o'r enghreifftiau cynharaf ym Mesopotamia, lle defnyddid tabledi clai. Gweler hefyd Llawysgrif Llenyddiaeth Llyfr Llythrennedd
15 Tags 0 Shares 1 Views

Password Copied!

Please Wait....